Tuesday 11 June 2013

Hela Twrch Atgofion


Yr ddiweddar fe fues i yng Nghwm-twrch, am y tro cyntaf ers dros 30 mlynedd.  Y tro hwnnw roeddwn ar dramp, gan arwain grwp o gyd-Sgowtiaid ar daith drwy'r mynyddoedd a'r sgwdiau. Dau beth sy'n dal i sefyll yn fy nghof am y daith gerdded honno: ceisio cerdded llwybr troed ar draws gwaith glo brig yn ardal Banwen Pyrddin a bwrw noson yng Ngwm-twrch. Ucha neu Isa gofynnwch chi? Wel, heb yr ail-ymweliad yr wythnos diwetha, doeddwn i ddim yn siwr!

Y rheswm dros fynd yn ol oedd agoriad swyddogol Ysgol Gymraeg Dyffryn y Glowyr. Ysgol fodern, sgleiniog yn llawn plant hapus. Roedd gweld holl blant yr ysgol yn canu "Sosban Fach" gan ddiweddu gyda bonllef o "ogi, ogi, ogi", a hynny yng nghwmni Max Boyce, yn hwyl arbennig.

Roedd Cyngor Sir Powys yn cynnal agoriadau swyddogol i sawl ysgol newydd yn y cyffiniau ond roedd rheswm arbennig, hiraethus a phersonol i fi fynychu'r un yng Ngwm-twrch yn benodol. 1981 oedd hi. Minnau a'm ffrindiau yn codi pabell ar lain o dir ger yr afon ac o dan domen glo. Lle cyfarwydd i wersylla i grwp o sgowtiaid o Gwm Cynon y pryd hynny.  Aethon ni i'r dafarn, y New Tredegar Arms, ie - Upper Cwmtwrch oedd hi! Dyna lle buon ni'n magu peint neu ddau a'r landledi yn tosturi drostom gan roi rols ham am ddim. Dyna lle gwylion ni'r wennol ofod yn hedfan am y tro cyntaf erioed. Gwn felly taw 12 Ebrill 1981 oedd hi.

Dyna hefyd, ar y ffordd i'r dafarn, yn y gwyll, y clywais blant yn chwarae yn Gymraeg am y tro cyntaf. Ar y stryd. Yn hollol naturiol. Heb athro na rhieni yn agos iddyn nhw. Roeddwn eisoes wedi penderfynu dysgu Cymraeg. Ond y noson honno teimlais fy mod wedi teithio mor bell o'm cynefin a'r gofodwyr ar eu Shuttle.

Bu'r flwyddyn honno'n dyngedfennol i fi. Penderfynu bwrw ati o ddifri nid yn unig i ddysgu Cymraeg ond byw drwyddi. Penderfynu astudio'r Gymraeg yn y coleg ger y lli. Hel fy mhac a gwersylla yn yr Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf.

Anaml iawn mae dyn yn gallu pwyntio at eiliad; at awr; at noson, gan ddweud dyna pryd newidiodd cwrs bywyd. Rwy'n credu fod y noson honno yng Nghwm-twrch Ucha wedi bod yn un o'r momentau prin hynny. A dyna pam roeddwn mor falch o weld ysgol Gymraeg newydd sbon yng Nghwm-twrch yn parhau a'r gwaith o hybu a chadw'r iaith yn y cwm.

Mae llawer wedi newid yng Ngwm-twrch er 1981, yn enwedig yn nhynged yr iaith, a symbol o oes diflanedig oedd y lamp glowr a gafodd Max Boyce am agor yr ysgol, ond deil fflam i losgi yn yr ysgol newydd a bydd teithwyr y dyfodol yn clywed y Gymraeg ar dafodau plant Cwm-twrch fel finnau 32 mlynedd yn ol.