Rwy’n cyhoeddi heddiw fy mod am gynnig fy hunan fel ymgeisydd i fod yn arweinydd Plaid Cymru.
Rwy’n gwneud hynny gan gredu y gallaf gynnig rhywbeth gwahanol a ffres i’r Blaid a chan anelu i ennill y ras, wrth obeithio hefyd bod yn rhan o adfywio’r Blaid a gwleidyddiaeth Cymru.
Credaf fod gan Blaid Cymru y polisïau cywir yn y bôn. Ni yw’r blaid sydd yn symud Cymru ymlaen. Ein syniadau ni sydd yn blodeuo ac yn egino mwya amlwg yn yr ardd wleidyddol. Hebom ni, er enghraifft, ni fyddai cwestiwn sylfaenol cyllido Cymru wedi gweld golau dydd.
Ac eto, nid ydym yn gweld y llwyddiant y byddwch chi’n ei ddisgwyl wrth weld cyrhaeddiad ein syniadau a’n polisïau.
Rydym wedi caniatáu i bleidiau eraill ddwyn ein dillad ni a’u gwisgo yn fwy ffasiynol.
O dro i dro, rydym yn debycach i glwb sydd ond yn siarad ymysg ein gilydd. Weithiau yn llythrennol mewn iaith nad yw’r rhan fwyaf o bobl Cymru yn ei deal; weithiau mewn ffordd astrus, megis am annibyniaeth, nad yw’r rhan fwyaf o bobl yn ei chlywed.
Efallai fod gan Siambr y Cynulliad waliau gwydr, ond yn rhy aml rydym yn fodlon fel plaid i’r etholwyr yn ein gweld, heb sylweddoli nad ydynt yn gwrando arnom.
Byddaf am fynd a’r Blaid mas i’r genedl gyfan o flwch y Cynulliad a hawlio yn ôl y tir gwleidyddol o roi Cymru’n gyntaf.
Felly rwy am gynnig arweinyddiaeth o’r Cynulliad, ond nid yn unig yn y Cynulliad.
A pha fath ar arweinyddiaeth?
Credaf fod gwerth yn yr hen ddywediad o “primus inter pares”. Mae gan Blaid Cymru dalent ar draws y cenedlaethau ac ar sawl lefel llywodraeth. Nid yw pawb yn gymwys i sefyll ac rwy am arwain mewn ffordd gydweithredol, gan annog y blaid i ddisgwyl i mi fel arweinydd i ddod a’r gorau allan o’r blaid gyfan.
Cafodd Plaid Cymru ei eni i fod mewn llywodraeth. Does dim pwrpas credu mewn hunanlywodraeth neu annibyniaeth os na chredwch mewn arwain eich gwlad.
Fel arweinydd byddwn am i’r Blaid weithio ar strategaeth dros 10 mlynedd a thros ddau etholiad i fynd a ni i mewn i lywodraeth.
A rhaid bod mewn llywodraeth hefyd am bwrpas. A phwrpas Plaid Cymru i mi yw adeiladu cenedl fwy gwar a chyfiawn. Mae uno ein gofal am ein planed gyda’n dyhead am ddatblygu ein cenedl yn hanfodol. Dyma pam mae sicrhau rheolaeth a meddiant dros ein hadnoddau naturiol, megis dŵr ac ynni adnewyddol mor bwysig i mi.
Credaf ei bod hi’n bryd clywed neges Plaid Cymru mewn ffyrdd newydd a chydag acen newydd. Gwleidyddiaeth y dosbarth gwaith Saesneg oedd fy magwraeth i. Erbyn hyn, mae fy annel ar adeiladu cenedl. Rydym wedi gweld canrif o oruchafiaeth Llafur yn arwain at ddiwylliant o ddibyniaeth yn ein gwlad; diwylliant o anobaith a diffyg menter. Dyna etifeddiaeth y mae’n ddyletswydd ar Blaid Cymru a’i harweinydd newydd i chwalu.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment