Thursday 19 May 2011

Anghymwys i fod yn Aelod?

Bu bron i’r Cynulliad bleidleisio ddoe ar dad-anghymwyso (os dyna’r gair) dau Aelod Cynulliad newydd y Democratiaid Rhyddfrydol, John Dixon ac Aled Roberts. O edrych yn ol ar y 24 awr diwetha, da o beth oedd hi fod oedi wedi digwydd cyn ystyried y fath gynnig.

Nid oedd yr un o’r ddau yn gymwys i fod yn ymgeisydd ac felly mae’u ethol yn annilys. Ni allent fod yn Aelodau Cynulliad oni bai i rwybeth newid.

Rhaid pwysleisio nad yw’n ddirgelwch i ymgeiswyr etholiadol – ar bob lefel – bod angen cwrdd a gofynion i fod yn ymgeisydd dilys. Ar hyd a lled Cymru mae nifer o bobl a hoffai fod yn gynghorwyr neu Aelodau Cynulliad neu Seneddol na fedrant oherwydd eu swyddi.

Roedd hyn yn wir amdana’i. Roedd rhaid i mi ymddiswyddo o’m swydd gyda Llywodraeth y Cynulliad,  nid pan ddeuthum yn ymgeisydd swyddogol,  ond siwrne yr oedd fy enw yn adnabyddus fel ymgeisydd posib. Roedd hynny nol ar ddiwedd Medi 2010 a bum yn ddiwaith ers hynny er mwyn cael bod yn ymgeisydd a dod yn AC. Mae nifer eraill wedi arberthu mewn ffordd debyg i’r achos y maen nhw’n credu ynddo a heb gael y diweddglo boddhaol a gefais i.

Ac mae pawb sy'n dilyn gwleidyddiaeth yn gwybod am y swyddi sydd yn eich gwneud yn anghymwys i fod yn AS, oherwydd drwy ddal swydd felly, megis "Steward of the Chiltern Hundreds", mae dyn yn ymddiswyddo o Dy'r Cyffredin.

Nid “mater technegol dibwys” felly yw ymddygiad a sefyllfa y ddau Lib Dem hyn, ond sefyllfa gyfarwydd iawn i bob ymgeisydd, er bod y cyrff y buon nhw’n aelodau ohonyn nhw heb ymddangos ar y wyneb fel rhai a oedd yn eich diarddel i fod yn ymgeisydd.

Cyn yr etholiad cyhoeddodd y Cynulliad ganllaw defnyddiol a amlinellai’r sefyllfa yn gwbl glir yma

Yn fwy na hyn, bu’r union ddeddfwriaeth a osododd y gwaharddiadau hyn drwy’r Cynulliad, Ty’r Cyffredin a Thy’r Arglwyddi yn ystod y misoedd diwethaf. Ble oedd yr aelodau Dem Rhydd yn y llefydd hyn dros yr amser hynny? Mae ganddynt Arglwydd wedi’u trosglwyddo’n syth o’r Cynulliad, a fu’n gwneud ei job o archwilio deddfwriaeth? Roedd sylwadau hysterig yr arglwydd Roberts ar Taro Post heddi yn chwerthinllyd o ystyried ei fod yn o’n deddfwriaethwyr ni. Fuodd yn cysgu pan aeth y Gorchymyn drwy Dy’r Arglwyddi?

Roedd gan blaid y Dem Rhydd bob cyfle i wybod am y ddeddfwriaeth hon.

Yn ogystal – ac ar gais uniongyrchol y Comisiynydd Safonau – bu pob plaid yn gosod yn eu maniffesto datganiad yn ymrwymo’u haelodau i ddilyn cod ymddygiad y Cynulliad yn ol y gair a’r ysbryd.

Dywedodd Winston Roderick heddiw fod yr etholiad yn annilys a’r ddau yn anghymwys i fod yn ACau.

Mae’n edrych yn bur debyg imi na fedrant fod yn Aelodau, ac nid wyf yn siwr o’r sefyllfa gyfreithiol pe bai’r Cynulliad yn pasio cynnig yn caniatau iddynt ddod yn aelodau. Rwy’n ofni y byddai hynny’n agored i arolwg barwnol yn y dyfodol.

Felly, rwy wedi galw heddiw am gyngor cyfreithiol llawn i’r Cynulliad cyn i ni ystyried unrhyw fath o gynnig i ganiatau i’r ddau hyn gymryd eu seddi.

Beth bynnag a ddigwydd, ni welaf yr angen am etholiad arall. Pe bai AC rhanbarthol yn marw yn y tresi neu ddod yn anghymwys oherwydd troseddu, yr un nesa o’r un blaid ar y rhestr sy’n cymryd ei lle. Dyna fyddai’r sefylla yn y cyd-destun hwn, rwy’n siwr.

Un peth i gloi, ble mae'r Comisiwn Etholiadol yn hyn i gyd?  Tawelwch llethol yw'r unig ymateb ganddo hyd yma.  Ar ol etholiad gwael gyda'r ffrwgwd am gyfri yn y gogledd, byddai dyn yn dychmygu fod y Comisiwn a rhywbeth i'w ddweud am fethiant arall yn y sustem etholiadol.

No comments:

Post a Comment