Tuesday 17 May 2011

Plaid Cymru reiterates commitment to all Wales government

Plaid Cymru today pledged to continue to ensure that all areas of Wales have a clear voice in the National Assembly.

Following Labour's decision not to allocate a Cabinet minister to Rural Affairs, Plaid's former Rural Affairs Minister Elin Jones reiterated her party's commitment to represent all areas of Wales. She said that Plaid in opposition would act constructively to ensure that Labour does not get away with ignoring rural areas, particularly in the west and the north.

The party called for early co-operation between the minority Labour government and opposition parties in order to get its programme of government through the Assembly.

Plaid's Mid and West Wales AM Simon Thomas said that talks on finance should begin as soon as possible if opposition support is to be secured.

Simon Thomas AM said:

"Plaid is committed to constructive opposition here in the National Assembly. After Labour failed to gain a majority, they will have to demonstrate their commitment to co-operation in order to get their plans through the Senedd. It would demonstrate a positive intent by the government if they initiated talks, particularly regarding finance as soon as possible."

Elin Jones AM said:


"The early indications from Labour are that they do not view rural areas as a priority while Plaid is as committed as ever to ensuring proper representation for all areas of Wales.

"In opposition, we in Plaid Cymru will work hard to ensure that Labour, without a working majority, cannot carry out plans that do not serve the best interests of the whole of Wales.

“Plaid demonstrated that this was one of our core values in Government – and as a responsible and constructive opposition party here, we will continue to be led by those values."

Plaid Cymru yn ailadrodd eu hymrwymiad i Lywodraeth Cymru

Mae Plaid Cymru heddiw yn ymrwymo i sicrhau bod gan holl ardaloedd Cymru lais clir yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Yn dilyn penderfyniad y Blaid Lafur i beidio dyrannu aelod o’r Cabinet i Faterion Gwledig, mae cyn-Weinidog Materion Gwledig Elin Jones wedi ailadrodd ymrwymiad ei phlaid i gynrychioli holl ardaloedd Cymru. Dywedodd bydd Plaid Cymru fel gwrthblaid yn ymddwyn yn adeiladol er mwyn sicrhau na fydd y blaid Lafur yn llwyddo i anwybyddu ardaloedd gwledig, yn benodol y gorllewin a’r gogledd.


Mae Plaid Cymru wedi galw am gydweithrediad buan rhwng Llywodraeth leiafrifol y Blaid Lafur a’r pleidiau gwrthbleidiol er mwyn sicrhau gweithredu eu rhaglen Lywodraethol yn y Cynulliad.

Dywedodd Simon Thomas, Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros y Canolbarth a Gorllewin Cymru bydd angen i drafodaethau ynglŷn â chyllid gychwyn cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau cefnogaeth gan y gwrthbleidiau.

Dywed Simon Thomas AC:

“Mae Plaid Cymru yn ymrwymedig i wrthbleidio yn adeiladol yma yn y Cynulliad Cenedlaethol. Ar ôl i’r Blaid Lafur fethu sicrhau mwyafrif, bydd angen iddynt arddangos eu hymrwymiad i gydweithio er mwyn sicrhau bydd eu cynlluniau yn llwyddo yn y Senedd. Bydd cynnal trafodaethau buan, yn enwedig ynglŷn â chyllid, yn arddangos bwriad cadarnhaol ar ran y Llywodraeth.”

Dywed Elin Jones AC:

“Mae arwyddion buan gan y Blaid Lafur yn dangos na fydd ardaloedd gwledig yn cael eu trin fel blaenoriaeth tra bod Plaid Cymru yr un mor ymrwymedig ag arfer i sicrhau cynrychiolaeth deg i holl ardaloedd Cymru.

“Fel gwrthblaid, bydd Plaid Cymru yn gweithio yn galed er mwyn sicrhau bydd y Blaid Lafur methu llwyddo gydag unrhyw gynlluniau sydd ddim yn gwasanaethu pennaf les yn holl ardaloedd Cymru.

“Mae Plaid Cymru wedi arddangos mai dyma oedd un o brif werthoedd y Blaid yn y Llywodraeth, felly fel gwrthblaid gyfrifol ac adeiladol yma, byddwn yn parhau i ddilyn yr un gwerthoedd”

No comments:

Post a Comment