Thursday 17 March 2011

Gareth Potter a Sherman Cymru: Gadael yr ugeinfed ganrif Neuadd Fawr, Aberystwyth

Gadael yr ugeinfed ganrif

Er nad oedd hwn yn fawr o berfformiad theatrig, rwy heb fwynhau noson o “theatr” Gymraeg ers tro. Efallai oherwydd fod y rhan fwya o'r perfformiad fel rhyw adlais lled gyfarwydd o fydysawd cyfochrog. Gŵr o'r Cymoedd; canol 40au; dysgu Cymraeg (er yn Rhydfelen); wastad ar y tu fas mewn cymdeithas Saesneg geidwadol; dianc drwy gynnwrf cerddoriaeth a'r sin Gymraeg; mynd o 'steddfod i 'steffod yn datblygu persona a chymeriad; gallu canu. Pob dim, ond yr ola, yn debyb i ryw fi “arall”. Roedd bron pob digwyddiad yn gyfarwydd, er bod Gareth Potter yn cofio llawer mwy na fi o'r amseroedd hynny.

Ffurf y noson oedd darlith hunan-gofiannol, gyda sleidiau a cherddoriaeth amlgyfryngol, ar ddull boblogaidd “An evening with....” Gwendid y perfformiad oedd bod y sgript yn amrywio o ymgeisio i fod yn theatrig i ddisgrifiadau mwy moel, yn enwedig tua'r diwedd wrth ruthro drwy'r 90au.
Roedd GP yn gymeriad hoffus, serch hynny - ar lwyfan beth bynnag - ac yn fodlon syrthio ar ei fai er nad oedd llawer o ddadansoddi neu hunan-ymwybyddiaeth. Cyfres o storiau a hanesion a gafwyd, a rheina yn ddigon difyr. Cafodd gymeradwyaeth gan gynulleidfa deilwng, er bod ei hanner hi braidd yn cofio'r cyfnod dan sylw – roedd clwstwr o bobl yn eu pedwardegau yno a llu o fyfyrwyr/disgyblion ysgol a bron neb arall.

Heddiw, es ati i chwilio am record cynta GP, Byw ar y radio gan Clustiau Cwn. Rwy'n siwr ei fod gyda fi ar un pryd. Rwy'n dal i feddwl fod ganddo un o'r riffs gore i record Cymraeg. Methais a'i ganfod, ond detho'i hyd i Cam o'r Tywyllwch, y record a oedd yn cynnwys yn ôl GP y genhedlaeth a ddaeth wedyn i greu'r Gymru newydd a gwyrdroi siom '79.

Ar ol hir chwilio, cefais o hyd i glip o’r gân, mae’n dechrau tua pum munud i mewn:



Yr unig ymgais gan GP at ddadansoddi oedd cyfeiriad ffwrdd a hi tuag at ddangos nad oedd y Gymraeg yn “eiddo yn unig i Welshies y gorllewin”. Ond gyda’i gân ef a Mark Lugg Rhyw ddydd yn cael ei defnyddio i hyrwyddo Cymdeithas yr Iaith; a’r cyfeiriad at alw bradwyr (gair mwyaf treuliedig a di-werth y mudiad iaith) ar y rheina a ddechreuodd ganu’n Saesneg yn nyddiadau cwl Cymru (megis Catatonia, Gorkis a’r Super Furries), roedd y rhan hon o’r sioe yn haeddu mwy o feddwl a dehongliad.

Rwy’n clywed fod y Dr Hywel Ffiaidd yn ailffurfio ar gyfer Eisteddfod Wrecsam; mae caset ganddo gyda fi rhywle hefyd. Pa frwydrau eraill o'r 80au fydd rhaid i ni ymladd o dan lywodraeth Doriadd ddi-hid am Gymru cyn gosod y genedl nôl ar ei thraed? O leia i'r genhedlaeth hon, llwyddiant refferendwm a dim siom a methiant sydd yn fan cychwyn i'w hymdrechion.

Diolch i Gareth Potter a Sherman Cymru am ein hatgoffa mewn ffordd hwyliog a byrlymus o rai o ymdrechion diwylliannol y 80au a’r 90au i ail-saernio Cymru.

No comments:

Post a Comment