I have had a great number of emails asking me to support the NSPCC's Assembly campaign and I am delighted to do so. I am a long standing supporter of the NSPCC and took forward their campaigns as an MP. I am still listed as a supporter here:
http://www.childrenareunbeatable.org.uk/pages/supporters.html
Rwyf wedi derbyn nifer fawr o ebyst yn gofyn imi gefnogi ymgyrch y NSPCC ar gyfer etholiadau’r Cynulliad ac mae’n dda gennyf ei wneud. Rwyf wedi cefnogi’r NSPCC ers tro gan fynd a nifer o’i ymgyrchoedd ymlaen pan oeddwn yn AS. Rwy’n dal wedi cofrestru fel cefnogwr yma:
http://www.childrenareunbeatable.org.uk/pages/supporters.html
This press release sets out the current campaign.
Simon Thomas pledges support for NSPCC Cymru/Wales Assembly election campaign to protect children
Simon Thomas, prospective assembly candidate for Mid and West Wales, has pledged to support the NSPCC Cymru/Wales ‘I stand for children’ campaign which aims to make child protection a priority for the next Assembly Government.
Simon Thomas said: “As a candidate in Mid and West Wales, I’m supporting NSPCC Cymru/Wales’ new campaign to ensure protecting children is a political priority: I Stand for Children.”
The NSPCC’s campaign is calling on candidates to commit to three child protection measures:
• Ensuring that funding of frontline children’s social services is protected
• Tackling child neglect
• Ensuring that children are effectively protected from abuse in all sports settings in Wales
NSPCC head of service for Wales, Des Mannion, said: “We need to make sure that the next elected Assembly Government keeps child protection high on its list of priorities. By signing up to our campaign, candidates in this next election can help.
“The public can also help by visiting our campaign website and letting their candidates know what they want done."
More information about the NSPCC Cymru/Wales ‘I stand for children’ campaign can be found at www.istandforchildren.com/wales or www.istandforchildren.com/cymru
Mae Simon Thomas, darpar ymgeisydd y Cynulliad dros ardal y Canolbarth a'r Gorllewin, yn cefnogi ymgyrch NSPCC Cymru ‘Rwy’n sefyll dros blant’ sy’n ceisio sicrhau bod amddiffyn plant yn flaenoriaeth i Lywodraeth nesaf y Cynulliad.
Dywedodd Simon Thomas: “Fel ymgeisydd yn ardal y Canolbarth a'r Gorllewin, rwy’n cefnogi ymgyrch newydd NSPCC Cymru i sicrhau bod amddiffyn plant yn cael blaenoriaeth wleidyddol: Rwy’n Sefyll dros Blant.”
Mae ymgyrch yr NSPCC yn galw ar ymgeiswyr i ymrwymo i dri mesur amddiffyn plant:
• Sicrhau bod cyllid ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol plant rheng flaen yn cael ei ddiogelu
• Mynd i'r afael ag esgeuluso plant
• Sicrhau bod plant yn cael eu hamddiffyn yn effeithiol rhag cam-drin ym mhob lleoliad chwaraeon yng Nghymru
Dywedodd Des Mannion, Pennaeth Gwasanaethau NSPCC yng Nghymru: “Mae angen i ni wneud yn siŵr bod Llywodraeth etholedig nesaf y Cynulliad yn sicrhau bod amddiffyn plant yn aros yn uchel ar ei rhestr blaenoriaethau. Gall ymgeiswyr yn yr etholiad nesaf hwn ymuno â’r ymgyrch er mwyn helpu i gyflawni hyn.
“Gall y cyhoedd helpu hefyd drwy ymweld â gwefan ein hymgyrch a dweud wrth eu hymgeiswyr beth yr hoffent ei weld yn digwydd.”
Ceir rhagor o wybodaeth am ymgyrch ‘Rwy’n sefyll dros blant’ NSPCC Cymru yn www.istandforchildren.com/cymru neu www.istandforchildren.com/wales
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment